Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 – Y Senedd Dyddiad: Dydd Llun, 5 Mehefin 2023
Amser:
14.00 -
14.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13375
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Luke Fletcher AS Joel James AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon - y Pwyllgor Deisebau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
2 Deisebau newydd
2.1 P-06-1331 Ystyriwch roi gofynion cyfreithiol ar waith i bob busnes preifat i sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i ddisgyblion Ysgol Gynradd Libanus am gymryd rhan yn y broses ddeisebu. Gwnaeth yr Aelodau gydnabod bod y Llywodraeth wedi sefydlu Tasglu Hawliau Anabledd, y disgwylir iddo gyhoeddi ei gynllun gweithredu erbyn mis Mawrth 2024, gan nodi bod gwaith yn mynd rhagddo i ymdrin â phryderon.
Cytunodd yr Aelodau i rannu barn y disgyblion â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a gofyn i’r safbwyntiau hyn gael eu rhannu â’r Tasglu hefyd. Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud wrth aros am adroddiad y Tasglu y flwyddyn nesaf, felly bydd y ddeiseb yn cael ei chau. Llongyfarchwyd disgyblion Ysgol Gynradd Libanus am dynnu sylw at y mater pwysig hwn.
2.2 P-06-1333 Dylid atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag torri coed, sy’n bygwth parhad gwiwerod coch.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i rannu sylwadau manwl a chwestiynau'r deisebydd.
Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn am ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y deisebydd.
2.3 P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gynnal ymchwiliad i’r mater dan sylw yn nhymor yr hydref.
2.4 P-06-1336 Gwersi Cymraeg am ddim i bawb sydd isio dysgu'r iaith yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ofyn am eglurder ynghylch sut y gall unigolion gael cymorth ariannol a’r wybodaeth sydd ar gael i ddarpar ddysgwyr.
2.5 P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau'r dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Medi, cyn diwrnod Owain Glyndŵr ar 16 Medi.
Nodwyd y bydd Aelodau unigol o bosibl yn dymuno cyfeirio at ddeisebau eraill yn ystod y ddadl, fel y ddeiseb sy’n galw am gynlluniau rheoli a chadwraeth gorfodol ar gyfer henebion cofrestredig.
Hefyd, cytunodd yr Aelodau i ymweld â'r safle cyn i'r ddadl gael ei chynnal yn nhymor yr hydref.
2.6 P-06-1340 Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes yn gofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn cyn diwedd toriad yr haf.
3 Diweddariadau i ddeisebau blaenorol
3.1 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. O ystyried y gwaith manwl a wnaed gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y maes hwn, cytunodd yr Aelodau nad oedd llawer mwy y gellid ei gyflawni drwy'r Pwyllgor Deisebau. Roedd yr Aelodau’n awyddus i longyfarch y deisebydd am yr ymgyrch lwyddiannus a arweiniodd at ddeddfwriaeth yn cael ei hystyried. Bydd y Pwyllgor yn rhannu adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac ymateb Llywodraeth Cymru â’r deisebydd ac yn cau’r ddeiseb.
3.2 P-06-1299 Dylai "Rhewi ar adeiladu ffyrdd" Llywodraeth Cymru gynnwys cymal ar gyfer achosion sy'n peri perygl i fywyd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i drafod pa gamau pellach, os o gwbl, y gall eu cymryd, gan gynnwys a fyddai'n briodol ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog.
3.3 P-06-1269 Peidiwch â gadael i'r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy'n marw yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i'r deisebwyr am eu hymgysylltiad parhaus â'r broses hon, gan gytuno i ysgrifennu at y Gweinidog i rannu gohebiaeth ddiweddaraf y deisebydd a gofyn am ymateb i'r tri phwynt a godwyd.
3.4 P-06-1304 Adolygu’r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy’n effeithio ar ein cymunedau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. Yng ngoleuni'r ymchwiliad manwl a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y maes hwn, yr argymhellion a wnaed ganddynt ac ymateb Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod mwy o gamau ataliol yn cael eu cymryd, a bod cymorth a llety priodol ar gael hefyd, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
3.5 P-06-1307 A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol?
Nododd y Pwyllgor, fel y cytunwyd yn flaenorol, y byddai’n ymweld ag ystâd Cwm Calon yn Ystrad Mynach gyda Hefin David AS ar 26 Mehefin.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
Derbyniwyd y cynnig.
5 Trafod yr Adroddiad Blynyddol drafft.
Trafododd y Pwyllgor yr Adroddiad Blynyddol drafft a chytunwyd y dylid anelu at gyhoeddi'r adroddiad terfynol cyn toriad yr haf.
6 Trafod allbynnau'r ymchwiliad i fesuryddion rhagdalu
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytunodd i anfon copi o’r ohebiaeth hon at Scottish Power, Centrica ac Energy UK cyn gynted â phosibl.